Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Mehefin 2020
Amser:
12.45 -
14.12
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i'w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Amser dechrau ac egwyl
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r amser dechrau aros yn 11.00 ac y dylai'r egwyl ddod ar ôl y cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, am tua 13.15.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at ychwanegu cyfres o reoliadau ysgolion ar 15 Gorffennaf:
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2020
· Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
o Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7 (5) o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020 (15 munud)
o Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020
Gofynnodd Sian Gwenllian am ohirio Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaeth o 15 Gorffennaf, oherwydd lle mae ar amserlen Senedd y DU ar hyn o bryd. Cytunodd y Trefnydd i ymchwilio i hyn a dychwelyd at y mater yr wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 16 Medi 2020
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Gofynion Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7 (5) o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
4.3 Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf Coronafirws 2020) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau o ddydd Gwener 10 Gorffennaf, i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad roi adroddiad ar y rheoliadau.
4.4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i 1 Hydref ar gyfer y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
4.15Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i 17 Gorffennaf ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
4.6 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a oedd yn egluro na fyddai'r Pwyllgor yn llunio adroddiad newydd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus). Roedd y Pwyllgor eisoes wedi adrodd ar y Memorandwm ar Fil blaenorol ar yr un pwnc, a gafodd y fwyell gan Etholiad Cyffredinol 2019.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyrau gan gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: yn gofyn am ddadleuon yn y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Pwyllgor Busnes y ceisiadau a chytunwyd i drefnu dadleuon y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu a'r Pwyllgor Deisebau am hanner awr yr un ar 8 Gorffennaf. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drefnu dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am awr ar 15 Gorffennaf.
5.2 Amserlen Pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen ddiwygiedig ar gyfer y pwyllgorau. Gwahoddodd y Pwyllgor Gadeiryddion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ystyried galw'r cyfarfodydd y maent am eu cynnal yn ystod y toriad yn ystod yr wythnos yn cychwyn 3 Awst 2020 i alinio â'r Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Trefnydd i'r pwyllgorau fod yn ymwybodol na fydd Gweinidogion ar gael i roi tystiolaeth i unrhyw gyfarfodydd a gynhelir yn ystod y toriad.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i'r cais gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gwrdd am awr brynhawn dydd Mawrth 30 Mehefin i ddarparu ar gyfer presenoldeb Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
5.3 Sefydlu ac aelodaeth arfaethedig Pwyllgor y Llywydd
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadw'r pwyllgor yn fach, ac i'r perwyl hwnnw dylai Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gynrychioli eu grŵp yn ogystal â'r Pwyllgor.
6 Rheolau Sefydlog
6.1 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Diwygio Rheolau Sefydlog
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig y newid a argymhellir i Reol Sefydlog 18.10.
7 Y Cyfarfod Llawn
7.1 Cyfarfod Llawn Hybrid
Nododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani, a chytunwyd i dreialu cyfarfodydd llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf, i baratoi'r Senedd ar gyfer tymor yr hydref.
Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i fynychu hyfforddiant ar y system bleidleisio o bell yr wythnos hon.
8 Unrhyw Fater Arall
Adborth ar waith craffu Pwyllgor ar adfer ar ôl Covid
Gofynnodd Darren Millar am adborth ar y drafodaeth yn Fforwm y Cadeiryddion mewn perthynas â goruchwylio'r adfer ar ôl COVID. Cadarnhaodd y Dirprwy Lywydd fod cytundeb ynghylch ffurfio is-bwyllgor o'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar gyfer y mater penodol hwn, a bod swyddogion yn paratoi opsiynau.
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd
Nododd Darren Millar sylwadau diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod David Rowlands wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, a dywedodd na fydd Plaid Brexit yn enwebu rhywun yn ei le. Mae hyn yn gadael tri aelod ar y pwyllgor: dau aelod Llafur (gan gynnwys y cadeirydd) ac un aelod o Blaid Cymru. Awgrymodd Darren Millar y dylai’r Pwyllgor, felly, ddwyn ei waith i derfyn; dywedodd y Llywydd y byddai’n cael cyngor ar y materion hyn.